Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Gwener, 16 Tachwedd 2018
Amser:
10.00 -
11.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5249
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Russell George AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Bethan Sayed AC Dai Lloyd AC Lynne Neagle AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kathryn Thomas (Ail Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rowlands, Jayne Bryant a Mike Hedges.
Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar agweddau ar waith Llywodraeth Cymru yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog.
Cytunodd y Prif Weinidog i ofyn i swyddogion gynnwys ymchwiliad o'r gwahaniaeth mewn cyflogau ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant ffilm yng Nghymru o gymharu â Lloegr fel rhan o'r gwaith maent yn ei wneud mewn perthynas â chyllid Llywodraeth Cymru i'r diwydiant ffilm yng Nghymru.
Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.
Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn gofyn iddynt ailystyried ceisiadau fisa i'r actorion ifanc sydd am deithio i Gymru o India i ffilmio Jungle Cry.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Weinidog a Jo Salway am ddod i'r cyfarfod. Diolchodd hefyd i'r Prif Weinidog am ei ymgysylltu â'r Pwyllgor ac am gefnogi polisi'r Pwyllgor o gynnal cyfarfodydd y tu allan i Gaerdydd.
Nodwyd y papur.
Ni chafodd y Cynnig ei wneud.
Ni wnaeth y Pwyllgor y cynnig i gyfarfod yn breifat i drafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol.